Ezekiel 40

Gweledigaeth y Deml Newydd a

(40:1—48:35)

Eseciel yn mynd i Jerwsalem

1Roedd hi'n ddechrau'r flwyddyn, ddau ddeg pum mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r mis cyntaf.
40:1 degfed diwrnod o'r mis cyntaf Ebrill 19, 573 CC mae'n debyg
(Sef un deg pedair blynedd ar ôl i ddinas Jerwsalem gael ei dinistrio). Roedd dylanwad yr Arglwydd arna i, a dyma fe'n mynd â fi i wlad Israel.
2Aeth â fi yno mewn gweledigaeth a'm gosod ar ben mynydd uchel iawn. c Roedd adeiladau i'w gweld i gyfeiriad y de, tebyg i ddinas. 3Dyma fe'n mynd â fi yno; ac yno'n sefyll o flaen giât y ddinas roedd dyn oedd yn ddisglair fel pres. Roedd ganddo dâp mesur a ffon fesur yn ei law. 4Dwedodd wrtho i, “Ddyn, edrych yn ofalus a gwrando'n astud. Dw i eisiau i ti sylwi'n fanwl ar bopeth dw i'n ddangos i ti. Dyna pam mae Duw wedi dod â ti yma. Rwyt i fynd yn ôl a dweud wrth bobl Israel am bopeth rwyt ti wedi ei weld.”

5Roedd wal o gwmpas adeiladau'r deml. Roedd ffon fesur tua tri metr o hyd yn llaw y dyn. Roedd y wal yn dri metr o drwch a tri metr o uchder.

Y Giât Allanol i'r Dwyrain

6Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder. 7Roedd cilfachau i'r gwarchodwyr bob ochr i'r fynedfa – pob un yn dri metr sgwâr, gyda wal dau fetr a hanner rhyngddyn nhw. Roedd trothwy mewnol y fynedfa i'r ystafell gyntedd o flaen cwrt y deml yn dri metr o ddyfnder. 8Yna mesurodd yr ystafell gyntedd. 9Roedd yn bedwar metr o hyd, gyda colofnau oedd yn fetr o drwch. Roedd y cyntedd hwn yn wynebu cwrt y deml. 10Roedd tair cilfach bob ochr i'r fynedfa, sef y giât ddwyreiniol. Roedden nhw i gyd yr un faint, a'r waliau rhyngddyn nhw yn mesur yr un faint. 11Roedd lled y fynedfa yn bum metr a chwarter, a'i hyd bron yn saith metr. 12Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr. 13Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr. 14Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder. 15Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr. 16Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi eu haddurno gyda coed palmwydd.

Y Cwrt Allanol

17Yna aeth â fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin. 18Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled a'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf. 19Yna dyma fe'n mesur y pellter rhwng y tu mewn i'r giât isaf a tu blaen yr iard fewnol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner.

Giât y Gogledd

Aeth â fi wedyn o'r ochr ddwyreiniol i'r ochr ogleddol.
20Mesurodd hyd a lled y fynedfa i'r iard allanol sy'n wynebu'r gogledd. 21Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led. 22Roedd y ffenestri, yr ystafell gyntedd a'r coed palmwydd yr un fath ag yn y giât ddwyreiniol. Roedd saith gris i fyny at y giât ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. 23Roedd giât arall i'r iard fewnol gyferbyn a'r fynedfa ar yr ochr ogleddol, fel gyda'r fynedfa ddwyreiniol. Mesurodd y pellter o'r naill i'r llall ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.

Giât y De

24Yna aeth â fi i'r ochr ddeheuol. Mesurodd y colofnau a'r cilfachau ar y giât ddeheuol ac roedden nhw yr un faint a'r lleill. 25Roedd y ffenestri yno a'r ffenestri yn yr ystafell gyntedd yr un fath â'r lleill, ac roedd hyd a lled y fynedfa yr un fath hefyd, sef dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. 26Roedd saith gris yn mynd i fyny at y giât, ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. Ac roedd coed palmwydd ar y colofnau, un bob ochr. 27Roedd giât i'r iard fewnol yn wynebu'r de hefyd. Mesurodd y pellter o un giât i'r llall, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.

Tair Giât yr Iard Fewnol

28Yna aeth â fi i'r iard fewnol drwy'r giât ddeheuol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. 29Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. 30Roedd cynteddau o'i chwmpas, yn un deg tri metr o hyd a dau fetr a hanner o led. 31Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.

32Yna aeth â fi i ochr ddwyreiniol yr iard fewnol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. 33Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn ddau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. 34Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.

35Yna aeth â fi at y giât ogleddol, a'i mesur. Roedd yr un faint â'r lleill – 36y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. 37Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.

Ystafelloedd lle roedd yr Offeiriaid yn gweithio

38Roedd drws i mewn i ystafell arall wrth ymyl ystafell y cyntedd. Dyma lle roedd yr offrymau i'w llosgi yn cael eu golchi. 39Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd – yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. 40Roedd byrddau tu allan i'r ystafell gyntedd hefyd, dau bob ochr i'r grisiau sy'n mynd at fynedfa'r gogledd. 41Felly roedd wyth bwrdd i gyd – pedwar y tu allan i'r fynedfa a pedwar y tu mewn – lle roedd yr anifeiliaid i'w haberthu yn cael eu lladd. 42Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi eu cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar 43fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau.

44Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell – un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd. 45A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de, 46ac ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor ydy'r un sy'n wynebu'r gogledd. Disgynyddion Sadoc ydy'r dynion yma, sef yr unig rai o ddisgynyddion Lefi sy'n cael mynd yn agos at yr Arglwydd i'w wasanaethu e.”

47Yna mesurodd yr iard. Roedd yn bum deg dau metr a hanner sgwâr, gyda'r allor yn sefyll o flaen y deml.

Adeilad Canolog y Deml

48Aeth â fi at gyntedd y deml ei hun a mesur ei dwy golofn. Roedden nhw tua dau fetr a hanner sgwâr. Roedd y giât yn saith metr o led a'r waliau bob ochr yn fetr a hanner o drwch. 49Roedd hyd y cyntedd yn ddeg metr a hanner a'i led yn bum metr a thri chwarter, gyda deg gris yn mynd i fyny ato a colofnau bob ochr.

Copyright information for CYM